Tir Coed - New Woodlands for Wales  Tir Coed - New Woodlands for Wales English Language version
English
  cartref prosiectau presennol prosiectau'r gorffennol polisiau amdanom ni cysylltiadau cysylltwch
 

Mae Tir Coed yn annelu i wella ansawdd bywyd cymunedau gwledig Cymru trwy ddefnyddio coed a choedwigoedd er mwyn cynnal a mwyhau gwerth cymdeithasol, economaidd, ecolegol a diwyllianol coed i'r dyfodol.


Sefydlwyd Tir Coed yn 1999 gan bartneriaeth o sefydliadau cefngwlad i hybu buddion coedwigoedd trwy Gymru. Mae'r sefydliad wedi datblygu mewn cytgord a blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef iechyd, cynhwysedd cymdeithasol ac addysg. Yn 2006, cofrestrwyd Tir Coed fel Elusen (Rhif Elusen - 1115229).

Amcan yr Elusen yw:

  • mwyafu addysg mewn sgiliau yn ymwneud â choed;

  • i ddatblygu, hyrwyddo ac annog darpariaeth o gyfleusterau o fewn coedwigoedd, er mwyn gwella iechyd a llês cymdeithasol;

  • i gynnig cyfleoedd addysg a hamdden i unigolion o fewn cefn gwlad Cymru sydd ag angen am y cyfleusterau hyn oherwydd eu hoed, anabledd corfforol neu feddyliol, caledi ariannol neu amgylchiadau cymdeithasol.

 

Tirwedd yr Ystwyth

Border

Mae Tir Coed yn annelu i gyflawni hyn trwy:

  • Hyrwyddo cymunedau i gymeryd rhan mewn gweithgareddau, sy'n hybu iechyd a sgiliau cymdeithasol, o fewn coedwigoedd lleol

  • Ceisio cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, rhwydweithiau a dysg o fewn cymunedau gwledig er mwyn galluogi coedwigoedd i gael eu defnyddio i gataleiddio datblygiad economaidd cynaliadwy

  • Ymateb i a chefnogi anghenion pobl lleol

  • Ceisio partneriaid i redeg gweithgareddau o fewn coedwigoedd a chysylltu gyda prosiectau eraill trwy Gymru wledig sy'n ymwneud a'r gymdeithas, iechyd, adfywio ac addysg oes

  • Ymdrin a'r holl weithgareddau mewn ffordd hyblyg er mwyn cwrdd a gofynion y grwp neu'r unigolyn


Clychau'r Gog
Gweithgaredd yn y Goedwig

Cerdded yn y Goedwig

Swyddfa Ty Lisburne - Gwyneth Davies
Ffôn: 01974 282476
e-bost-gwyneth@tircoed.org.uk

Swyddfa Fferm Denmarc - Becky Hulme & Angie Martin
Ffôn: 01570 493224
e-bost-becky@tircoed.org.uk / angie@tircoed.org.uk