Tir Coed - New Woodlands for Wales  Tir Coed - New Woodlands for Wales English Language version
English
  cartref prosiectau presennol prosiectau'r gorffennol polisiau amdanom ni cysylltiadau cysylltwch

Rheolir Tir Coed gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr sy'n cynrychioli Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Coed Cymru, Sefydliad Iechyd Cefn Gwlad, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a chyrff eraill. Y Cadeirydd presennol yw Simon Hewitt.

Mae Tir Coed yn cyflogi tri aelod o staff ar hyn o bryd:

Gwyneth Davies - Cydlynydd yr Ystwyth

Gwyneth Davies - Swyddog Cynllun

Graddiais mewn Drama a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn dilyn hyn bum yn teithio o gwmpas ysgolion a neuaddau cymuned trwy Gymru gyda chwmniau theatr; yna euthum i gyflwyno (rhaglenni plant yn bennaf) a pherfformio ar S4C.

Fe'm ganwyd, ac rwy'n dal i fyw, ym Mhontrhydygroes yn nyffryn yr Ystwyth. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn helpu fy ngwr i redeg ein fferm deuluol ac yn magu fy nhri plentyn. Mae fy niddordebau yn cynnwys chwarae'r piano (rwy'n cyfeilio i'r côr lleol), pobi cacennau (a'u bwyta!) a rhedeg gwasanaeth tacsi i'm mhlant - tasg heriol!!

gwyneth@tircoed.org.uk




Becky Hulme - Swyddog Cynllun De Cymru

Becky Hulme - Swyddog Cynllun

Symudais i Gymru gyntaf yn 1997 i ymgymeryd â chwrs gradd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Llanbedr pont Steffan. Ers hynny rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector cadwraeth amgylcheddol yng Ngorllewin Cymru. Mae gen i gefndir mewn gofal plant ac addysg meithrin, rwy'n hollol ymrwymedig i addysg amgylcheddol gan gredu ei fod yn allweddol i sicrhau datblygiad cynaliadwy dros y tymor hir.

Yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru rwyf wedi bod yn aelod brwd o'r gymuned lleol, a bum ynghlwm a nifer o grwpiau a chynlluniau cymunedol. Rwy'n treulio fy amser hamdden gyda'm dau fab, ond, pan ddaw cyfle, rwyf hefyd yn mwynhau garddio, darllen a nofio.

becky@tircoed.org.uk




Angie Martin - Swyddog Cynllun Cynorthwyol

Angie Martin - Swyddog Cynllun

Ers graddio fel athrawes Astudiaethau Symud, rwyf wedi gweithio o fewn y sectorau Uwchradd, Dros 16, Addysg Bellach ac Ieuenctid, yn ogystal a gyda chwmni Theatr Mewn Addysg cymunedol a Gwirfoddolwyr y Prince's Trust.

Rwy'n frwd am weithgareddau yn yr awyr agored ac yn greadigol iawn - fe'm disgrifiwyd unwaith fel "y wraig Blue Peter wreiddiol" am fy ngallu i greu rhywbeth allan o ddim!

Ers symud i Gymru yn 2006 rwyf wedi dod yn fam; wedi plannu perllan (83 o goed hyd yn hyn); wedi sefydlu grwp bwydo o'r fron yn Llanbedr pont Steffan; ac wedi dod yn wirfoddolwr cyson gyda'r Shared Earth Trust.

O ganlyniad i fyw ar gwch camlas am nifer o flynyddoedd, rwyf wedi bod yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â'r amgylchedd ac egni, ond yn ddiweddar mae'r rhain wedi dod yn fwy o ganolbwynt yn fy mywyd.Rwyf nawr yn fwy argyhoeddedig ac yn ymrwymedig i bethau lleol, naturiol a chynaladwy gan gredu mai hyn yw'r dyfodol, ac rwy'n awyddus i wneud fy rhan.

angie@tircoed.org.uk



Border

botwm i fyny
BRIG