Tir Coed - New Woodlands for Wales  Tir Coed - New Woodlands for Wales English Language version
English
  cartref prosiectau presennol prosiectau'r gorffennol polisiau amdanom ni cysylltiadau cysylltwch
 
Border
Border

Branching Out/Egin - Rhaglen Cymunedau a Natur

Os ydych yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn yr awyr agored, beth am ymuno â'r rhaglen yma:

Mae Tir Coed wedi ffurfio partneriaeth gyda Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i gynnig profiadau gwirfoddoli mewn rheolaeth coedwigoedd a rheolaeth cefngwlad, yn ogystal a sgiliau traddodiadol gwaith glasbren, trwy wella Gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. Byddwch yn gweithio ar safleoedd a ydynt:

  • Yn debygol o ddenu mwy o ymwelwyr; ac
  • Yn agored i gael eu defnyddio gan y gymuned.

Bydd y rhaglen 3-mlynedd yn gweithio gyda pobl ifanc, 16 - 25 oed, a ydynt:

  • Allan o waith, addysg neu hyfforddiant; neu
  • Yn droseddwyr ifanc, neu mewn perygl o droseddu.

Bydd 10 o grwpiau o pobl ifanc o'r ardaloedd cyfagos, o dan arweiniad tiwtoriaid profiadol sy'n gweithio i Tir Coed, yn cwrdd yn rheolaidd i gyflawni gwaith ar 6 Gwarchodfa unigol. Bydd Mentor yn cefnogi'r pobl ifanc yn ystod eu cyfnod ar y rhaglen.

Rhaglen Cymunedau a NaturYn dilyn pedwar Sesiwn Flasu, bydd y grwpiau yn dilyn rhaglen o waith rheolaeth cefngwlad ac adeiladu o lasbren, gan gynnwys:

  • Defnyddio offer llaw yn ddiogel,
  • Creu llwybrau cerdded a llwybrau ymarfer corff,
  • Adeiladu stepiau a phontydd,
  • Adeiladu cysgodfeydd, llochesu bywyd gwyllt a meinciau o bren,
  • Creu paneli dehongli, a
  • Chynorthwyo i ddylunio taflenni hyrwyddo.

Defnyddir diwrnodau agored, taflenni gwybodaeth a phosteri i godi ymwybyddiaeth am y Gwarchodfeydd ymysg ymwelwyr, o bell ac agos. Annogir ysgolion lleol a grwpiau cymunedol i ddefnyddio'r Gwarchodfeydd fel adnodd parhaol ar gyfer gweithgareddau addysgiadol a chymdeithasol.

Bydd Mentor yn cefnogi'r gwirfoddolwyr gydag unrhyw broblemau. Trwy weithio gyda'r pobl ifanc, busnesau lleol ac asiantaethau eraill bydd y Mentor hefyd yn ymchwilio llwybrau cynnydd i addysg pellach, profiad gwaith/gwirfoddoli a gwaith cyflogedig o fewn dewis feusydd y pobl ifanc.


I wneud cais am gyfleoedd gwirfoddoli - cliciwch yma.


 

Nôl i Prosiectau'r Presennol

 

botwm i fyny
BRIG