WICKED - Branching Out/Egin
Bydd Branching Out/Egin yn datblygu ac atgyfnerthu model gweithredol y prosiect peilot WICKED (Woodland Initiatives - a Catalyst for Kids' Education and Development) trwy ddefnyddio coedwigoedd fel modd i ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol a galwedigaethol pobl ifanc, 16 - 25 oed, o ardaloedd gwledig sydd wedi eu hymylu.
Nôd Branching Out/Egin yw cynorthwyo y pobl ifanc yma i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i ddilyn llwybrau at waith cyflogedig ac i ddod yn wirfoddolwyr gweithgar o fewn eu cymuned.
Trwy weithdai a gweithgareddau ymarferol, bydd y prosiect yn cefnogi pobl ifanc i:
- Wella eu hyder a'u llês cymdeithasol;
- Wella eu sgiliau galwedigaethol;
- Wella eu cyfleoedd i ddatblygu gyrfa sy'n arwain at waith; a
- Gwella eu hymwybyddiaeth o'r amgylchedd.
Oherwydd natur beryglus y gwaith (yn defnyddio offer miniog mewn lleoliadau anghysbell), bydd canran y goruchwyliaeth yn uchel - 1 Tiwtor i 4 pobl ifanc. Mae goruchwyliaeth dwys yn galluogi'r Tiwtoriaid i ganolbwyntio ar anghenion personol, yn ogystal ag anghenion ymarferol, pob gwirfoddolwr.
Darperir y canlynol - Offer diogelwch ac offer llaw, trafnidiaeth a chost cinio (trwy ddangos derbyneb). Bydd Tir Coed yn trefnu'r gweithdai, ac yn gofalu bod gofynion Iechyd a Diogelwch, Asesiadau Risg a thystysgrifau Cymorth Cyntaf yn eu lle.
Mae Tir Coed yn gweithio gyda sefydliadau eraill, fel yr Ymddiriedolaeth Natur, Coed Cadw, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefngwlad Cymru a grwpiau coedwigoedd cymunedol. Nid yw Tir Coed yn berchen ar safleoedd, ond yn hytrach mae'n gweithio mewn partneriaeth gyda'r uchod, yn ogystal a pherchnogion coedwigoedd preifat, i wella ac i gynnal a chadw coedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur sy'n agored i'r cyhoedd.
|