Tir Coed - New Woodlands for Wales  Tir Coed - New Woodlands for Wales English Language version
English
  cartref prosiectau presennol prosiectau'r gorffennol polisiau amdanom ni cysylltiadau cysylltwch
 
Border
Border

Branching Out/Egin - Rhaglen y Porth Ymgysylltu

Os ydych yn ystyried gyrfa yn yr awyr agored ac yn edrych am hyfforddiant i wella eich sgiliau ymarferol, gall y rhaglen hwn fod o help i chi.

Nôd rhaglen y Porth Ymgysylltu yw galluogi pobl ifanc, 16 - 25 oed, nad ydynt mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant, i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i ddilyn llwybrau at waith cyflogedig ac i ddod yn wirfoddolwyr gweithgar o fewn eu cymuned.

Yn ystod y rhaglen 2-flynedd, bydd grwpiau o pobl ifanc, o dan arweiniad tiwtoriaid profiadol a gyflogir gan Tir Coed, yn cael eu hyfforddi o fewn coedwigoedd sy'n agored i'r cyhoedd yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro, mewn dau gymal allweddol:

Rhaglen y Porth Ymgysylltu
  1. 4 diwrnod o sesiynnau blasu - yn cynnwys gweithdai mewn rheolaeth cefngwlad a gwaith glasbren a fyddant yn canolbwyntio ar wella hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau datrys problemau y pobl ifanc. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin trwy dasgau neilltuol, fel crefftio eitem allan o bren i'w gymeryd adref ar ddiwedd y dydd. Yn ogystal, bydd yr awyrgylch anffurfiol yn ystod egwyl o gwmpas y tân yn helpu pobl ifanc i siarad yn agored am unrhyw elfennau sy'n cael effaith negyddol ar eu bywydau.
  2. Cyrsiau achrededig - Cyfunir hyfforddiant sgiliau gwaith gyda prosiectau i wella a chynnal ardaloedd gwyrdd o fewn y gymuned leol, gan gynnwys rheolaeth cefngwlad a rheolaeth coedwigoedd, yn ogystal a llunio celfi o bren, adeiladu cuddfannau bywyd gwyllt a rhodfeydd a chreu mwy o ardaloedd hamdden gwyrdd ar gyfer y gymuned.

Mae Tir Coed wedi datblygu cyrsiau Sgiliau Coedwigaeth a Chefngwlad a ydynt yn cynnig fframwaith o unedau achrededig Agored Cymru (OCN). Mae'r cyrsiau hyn wedi eu llunio er mwyn datblygu sgiliau galwedigaethol ymhellach, yn ogystal a chynhyddu gwaith tîm a sgiliau trefniadol.

Bydd Mentor yn cynorthwyo'r pobl ifanc i orchfygu unrhyw rwystr rhag cymeryd rhan llawn yn y rhaglen. Gan weithio gyda'r pobl ifanc, busnesau bychain lleol a sefydliadau eraill, bydd y Mentor yn ymchwilio llwybrau gyrfaoedd i addysg bellach, cyfleoedd gwirfoddoli/profiad gwaith neu waith cyflogedig yn newis faes y person ifanc.


I ymuno â cwrs hyfforddiant - cliciwch yma


 

Nôl i Prosiectau'r Presennol

 

botwm i fyny
BRIG