Tir Coed - New Woodlands for Wales  Tir Coed - New Woodlands for Wales English Language version
English
  cartref prosiectau presennol prosiectau'r gorffennol y staff cysylltiadau defnyddiol cysylltwch
     
 

Amcan Tir Coed yw hybu buddion coed a choedwigoedd i gymunedau gwledig trwy fodd y themau canlynol (bydd nifer o'n prosiectau yn diwallu mwy nag un thema):

  1. Hybu iechyd a lles

  2. Hybu adfywio cefngwlad

  3. Hybu cynhwysedd cymdeithasol

 
 

Hybu iechyd a lles

Trwy amrywiol weithgareddau rydym yn anleu i:

  •  Hybu iechyd a lles trwy gyfleoedd newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli o fewn coedwigoedd

  •  Darparu gwybodaeth ar gyfleoedd hamdden o fewn coedwigoedd lleol

  •  Hybu coedwigoedd fel lleoliadau i gynnal digwyddiadau cymunedol, e.e. diwrnodau hwyl yn y fforest, digwyddiadau celf a chrefft yn y goedwig

Hybu iechyd a lles
 

Hybu adfywio cefn gwlad

Trwy ystod eang o weithgareddau rydym yn anelu i:

  •  Hyrwyddo hyfforddiant sgiliau rheolaeth cefngwlad trwy Gymru

  •  Hybu a hyrwyddo hyfforddiant mewn crefftau pren, e.e. gweithdai troelli a cherfio

  •  Hybu buddion addysgiadol coedwigoedd fel cyfleoedd am addysg bellach a dysg oes

  •  Cydlynnu a rhwydweithio gyda gwahanol gynhyrchwyr a sefydliadau o fewn y diwydiant pren er mwyn mabwysiadu agwedd gyfannol o fewn y gadwyn pren

  •  Cyfrannu at leihad o allfudo pobl ifanc trwy ddarparu cyfleoedd economaidd-gymdeithasol iddynt o fewn y sector goedwigaeth a phren

  •  Sicrhau ymarfer da mewn rheolaeth coedwigoedd, e.e. annog a hyrwyddo ardystiad coedwigoedd

  •  Hybu a marchnata cynnyrch pren lleol

Diwrnod plygu perthi Diwrnod plygu perthi
 
 

Hybu cynhwysedd cymdeithasol:

Rydym yn anelu i:

  •  Gwrthsefyll amddifadedd cymdeithasol trwy hyrwyddo defnyddio coedwigoedd er lles cymdeithasol ac economaidd

  •  Blaenoriaethu grwpiau ymylol, o dan anfantais, mewn gweithgareddau yn ymwneud a choedwigoedd a phren

Gwneud mainc Plannu coed
 
Border

Border


botwm i fyny
BRIG
 

Defnyddiwch y cysylltiadau yma i weld a llwytho i lawr mwy o wybodaeth am brosiectau Tir Coed.

Iechyd a Lles

Mae coedwigoedd yn fannau delfrydol i hybu iechyd meddwl a chorff. Trefnwyd y prosiectau a'r digwyddiadau canlynol i hyrwyddo manteision coedwigoedd i iechyd a lles y cymunedau lleol.

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 124Kb

Ieuenctid ac Ysgolion

Bu pobl ifanc yr ardal yn helpu Tir Coed i roi cychwyn bywiog i'w cynllun yn nyffryn yr Ystwyth.

Pobl Ifanc ac Ysgolion

Rheolaeth a Chynnyrch Coedwigoedd

Yn ystod Hydref, 2003 cynhaliwyd cyfres o weithgareddau yn yr Ystwyth yn ymwneud â rheoli a marchnata coed lleol.

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 301Kb

Ymgynghoriad Cymunedol

Yn 2002, ymgymerodd Tir Coed a chyfres o ymgynghoriadau cymunedol gan wahodd y pobl lleol i ddatgan eu sylwadau am Gynllun Fforestydd y Cynulliad o fewn dyffryn yr Ystwyth am y 10 mlynedd nesaf.

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 93Kb



Byddwch angen "Darllenydd Adobe" i edrych ar y ffeiliau PDF.
Os nad oes gennych y pecyn hwn, cliciwch ar y botwm isod i'w lwytho i lawr.

Derbyn Darllenydd Adobe

 
 

Six Monthly Progress Report - April to September '06

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 349Kb
Saesneg yn unig

 
 
 

Annual Progress Report - April '05 to March '06

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 349Kb
Saesneg yn unig

 
 
 

Progress Report - October '04 - March '05

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 349Kb
Saesneg yn unig

 
 

Progress Report - April '04 - September '04

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 282Kb
Saesneg yn unig

 
 

Progress Report - September '03 - March '04

Llwytho i lawr Ffeil PDFPDF - 195Kb
Saesneg yn unig

 

Byddwch angen "Darllenydd Adobe" i edrych ar y ffeiliau PDF.
Os nad oes gennych y pecyn hwn, cliciwch ar y botwm isod i'w lwytho i lawr.

Derbyn Darllenydd Adobe
Border
     
 

Swyddog Gogledd Cymru - Gwyneth Davies
Ffôn: 01974 282476  e-bost-gwyneth@ystwyth-tircoed.fsnet.co.uk

Swyddog De Cymru - Becky Hulme
Ffôn: 01570 493224  e-bostl-becky-tircoed@fsmail.net

 
    botwm i fyny
BRIG