Angie Martin - Swyddog Cynllun Cynorthwyol
Ers graddio fel athrawes Astudiaethau Symud, rwyf wedi gweithio o fewn y sectorau Uwchradd, Dros 16, Addysg Bellach ac Ieuenctid, yn ogystal a gyda chwmni Theatr Mewn Addysg cymunedol a Gwirfoddolwyr y Prince's Trust.
Rwy'n frwd am weithgareddau yn yr awyr agored ac yn greadigol iawn - fe'm disgrifiwyd unwaith fel "y wraig Blue Peter wreiddiol" am fy ngallu i greu rhywbeth allan o ddim!
Ers symud i Gymru yn 2006 rwyf wedi dod yn fam; wedi plannu perllan (83 o goed hyd yn hyn); wedi sefydlu grwp bwydo o'r fron yn Llanbedr pont Steffan; ac wedi dod yn wirfoddolwr cyson gyda'r Shared Earth Trust.
O ganlyniad i fyw ar gwch camlas am nifer o flynyddoedd, rwyf wedi bod yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â'r amgylchedd ac egni, ond yn ddiweddar mae'r rhain wedi dod yn fwy o ganolbwynt yn fy mywyd. Rwyf nawr yn fwy argyhoeddedig ac yn ymrwymedig i bethau lleol, naturiol a chynaladwy gan gredu mai hyn yw'r dyfodol, ac rwy'n awyddus i wneud fy rhan.
angie-tircoed@hotmail.co.uk
|