|

IEUENCTID AC YSGOLION
Cafwyd cychwyn bywiog i gynllun Tir Coed yn nyffryn yr Ystwyth pan ddaeth tua 20 o aelodau'r Clwb Ieuenctid ynghyd i glirio llwybrau hanesyddol yng nghoed Maenarthur.
Mae'r llwybrau hyn yn arwain at Pont y Mwynwyr - pont a agorwyd yn ddiweddar trwy nawdd y cynllun "Cydcoed"; mae'r llwybrau yn rhan o gylchdaith sy'n cynnig golygfeydd gwefreiddiol ar draws y dyffryn yn ogystal ag olion treftadaeth o oes y gweithfeydd mwyn. Trefnwyd y dydd mewn partneriaeth â Menter Coedwigaeth a chafwyd cyfarwyddyd y swyddog bywyd gwyllt lleol i hwyluso'r gwaith.

Dywedodd Gwyneth (cydlynydd): "Mae'n galondid i gael pobl ifanc yn cymeryd rhan yn y cynllun, yn arddangos ymrwymiad a balchder yn eu cymuned. Un o amcanion Tir Coed yw creu mwy o gyfleoedd i'r pobl ifanc yma i aros yn eu cynefin."
|
|
CASGLU MÊS
Bu disgyblion ysgol gynradd Ysbyty Ystwyth yn diogelu dyfodol coed derw cynhenid yn eu hardal. Bu'r plant yn casglu mês o goedwig lleol o dan gyfarwyddyd Mr a Mrs John Rainbow o Feithrinfa Goed yr Ystwyth. Dysgodd y plant pa fês i'w casglu o ran maint ag ansawdd ac, yn hwyrach, buont yn plannu'r mês mewn potiau.
Mae'r ysgol wedi ymweld â'r feithrinfa goed ers hynny i wylio eu mês yn tyfu ac i ddysgu mwy am waith y feithrinfa. Bydd y plant yn plannu'r coed ifanc mewn coedwig lleol yn fuan ple gallant wylio eu derw yn tyfu am genedlaethau i ddod.
|
 |
|
YSGOLION CYNRADD
Fel rhan o weithgaredd Wythnos Genedlaethol Coed, bu Rhian Jones, Ceidwad addysg Menter Coedwigaeth, a Gwyneth Davies, cydlynydd Tir Coed Ystwyth, yn ymweld ag ysgolion cynradd o fewn dyffryn yr Ystwyth.. Pwrpas yr ymweliad oedd casglu barn y plant am goedwigoedd lleol y Cynulliad. Bu Rhian a Gwyneth yn gwrando ar syniadau plant yn ysgolion Capel Seion, Llanfarian, Llanilar, Llanfihangel y Creuddyn, Llanafan ac Ysbyty Ystwyth.
|
|
Cychwynwyd trwy drin a thrafod sut mae coedwigoedd yn medru darparu ar gyfer pobl, bywyd gwyllt, swyddi, hamdden a iechyd. Yna rhanwyd y plant yn bedwar grwp i chwarae gem "cynllunio coedwig", roedd cyfle yma i'r plant ddysgu am yr holl agweddau sy'n rhaid eu hystyried wrth ddatblygu cynllun fforest.
Yn olaf, gofynwyd iddynt ddarlunio eu syniadau am goedwig lleol i'r dyfodol. Bydd y syniadau yma yn cael eu cyflwyno i ddylunydd Menter Coedwigaeth i'w hystyried yng nghynllun fforest dyffryn Ystwyth am y 10 mlynedd nesaf, sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.
|
|
|
COED CALL
Rhaglen dau gymal, mewn coedwigoedd, gyda pobl ifanc.
Bwriadau
- codi ymwybyddiaeth amgylcheddol pobl ifanc;
- annog pobl ifanc i gysylltu â'u amgylchedd;
- casglu eu barn a'u dyheadau am eu cynefin;
- dysgu sgiliau newydd a chael mwynhad o fewn coedwig;
- cyflwyno pobl ifanc i weithio gyda phren.
Amcanion
- Rhoi cyfle i pobl ifanc i weithio gyda phren o fewn y goedwig;
- Bydd pob person ifanc wedi creu offeryn cerdd o bren lleol i'w gadw;
- Pobl ifanc yn archwilio coedwig cyn cyfansoddi a recordio caneuon "rap" a ysbrydolwyd gan y goedwig, tra'n mynegi barn/hoffder/diffyg hoffder am eu hamgylchedd lleol;
- I gynhyrchu cryno ddisg o'r caneuon uchod i pob person ifanc i'w gadw.
|
|
Cymal 1 :
Treuliodd pob clwb ddiwrnod mewn coedwig, yn creu offerynnau cerdd o bren lleol, o dan oruchwyliaeth 2 hyfforddwr.
Yr offerynnau a grewyd oedd:
Seiloffôn, Lagerffôn, Drwm bohran.
Ar ddiwedd y dydd roedd pob person ifanc wedi creu offeryn cerdd i'w gadw.
|
 |
|
Cymal 2 :
Daeth y clybiau a'u hofferynnau cerdd ynghyd i gymeryd rhan mewn gweithdy undydd. Wedi archwilio'r goedwig am ysbrydoliaeth, cyfansoddwyd caneuon "rap" a'u recordio ar gryno ddisg.
Ar ddiwedd y gweithdy cafodd pob person ifanc gopi o gryno ddisg ei glwb i'w gadw.
|
 |
|
PLANNU COED
Yng Nghanolfan Cefngwlad Clynfyw, Sir Benfro, cliriwyd a pharatowyd 2 hectr o dir ar gyfer ei blannu. Cwblhawyd y gwaith hyn, mewn partneriaeth gyda Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, gan pobl ifanc ar y rhaglen "Tîm 100" sydd ynghlwm a'r Ganolfan Byd Gwaith.
Wedi paratoi'r safle, treuliodd ysgolion lleol ddiwrnod yn plannu ardal newydd o goed. Dysgwyd sut i blannu a gofalu am goed, yn ogystal a chael gwybodaeth am wahanol rywiogaethau a phwysigrwydd coed i pobl a'r amgylchedd.

Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Hafod a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru trefnwyd sesiynnau o blannu coed gydag ysgolion yng ngogledd Ceredigion. Yn ogystal a phlannu coed ar Ystad yr Hafod, cafwyd taith tywysiedig i weld y coedwigoedd aeddfed, y bywyd gwyllt ac i ddysgu am hanes tirwedd yr Ystad.
|
|
| |
|
Nôl i Prosiectau'r Gorffennol |
| |
|
Swyddfa Ty Lisburne - Gwyneth Davies
Ffôn: 01974 282476 e-bost-gwyneth@ytircoed.org.uk
Swyddfa Fferm Denmarc - Becky Hulme & Angie Martin
Ffôn: 01570 493224 e-bost-becky@tircoed.org.uk / angie@tircoed.org.uk
|
BRIG
|